Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y cyfarfod:
Dydd Mawrth, 24 Mai
2016
Amser y cyfarfod: 13.30
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV
yn:
http://senedd.tv/cy/3594
Dechreuodd yr eitem am 13.30
Gwnaeth y Llywydd ddatganiad ynglŷn â’r iaith a ddefnyddiwyd yn y siambr yr wythnos diwethaf gan Arweinydd grŵp UKIP. Ar ôl edrych ar Gofnod y Trafodion, dywedodd y Llywydd nad oedd ganddi unrhyw amheuaeth fod Neil Hamilton AC wedi tramgwyddo’r Rheolau Sefydlog sy’n gwahardd iaith sy’n groes i’r drefn, iaith sy’n gwahaniaethu neu sy’n peri tramgwydd neu iaith sy’n amharu ar urddas y Cynulliad. Eglurodd y Llywydd ei bod wedi rhoi gwybod iddo’n breifat yr hyn y mae’n ei ddisgwyl, a’i bod yn ddiolchgar iddo am dderbyn ei barn ar y mater hwn.
Dywedodd y Llywydd y byddai’n annog dadl fywiog, egnïol a chadarn, ond bod yn rhaid i Aelodau fod yn ddigon abl i wneud hynny heb dynnu oddi wrth urddas y Cynulliad na sarhau integriti Aelodau eraill. Cyn belled â’u bod yn gwneud hynny, byddai’r holl Aelodau yn cael eu clywed, beth bynnag fo’u plaid.
Dechreuodd yr eitem am 13.33
Gofynnwyd yr 11 cwestiwn cyntaf. Cafodd cwestiynau 3 ac 11 eu grwpio i’w hateb gyda’i gilydd. Gwahoddodd y Llywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2.
Dechreuodd yr eitem am 14.26
Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro) A wnaiff y Gweinidog ddatganiad brys ynghylch y newyddion bod y cymorth a roddir ar gyfer astudiaeth ôl-radd ran-amser yng Nghymru wedi dod i ben?
Dechreuodd yr eitem am 14.31
Dechreuodd yr eitem am 14.58
NNDM6016 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol a Rheol Sefydlog 11.3:
Yn penodi'r Llywydd, Jane Hutt (Llafur), Simon Thomas (Plaid Cymru), Paul Davies (y Ceidwadwyr Cymreig) a Mark Reckless (UKIP Cymru) yn aelodau o'r Pwyllgor Busnes.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Dechreuodd yr eitem am 14.59
Yn unol â Rheol Sefydlog 12.10, gall y Cynulliad ystyried hefyd:
(i) unrhyw fusnes o dan Reol Sefydlog 12.16; a
(ii) unrhyw fusnes arall y mae’r Cynulliad yn cytuno arno drwy benderfyniad.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Daeth y cyfarfod i ben am 14.59
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mercher, 8 Mehefin 2016